|
Cafodd Consortiwm
Hyfforddi Tudful Cyfyngedig ei sefydlu ym 1987 a'i gorffori'n gwmni
cyfyngedig ac yn Elusen Gofrestredig ym 1990.
Am yn agos i 20 mlynedd mae Consortiwm
Hyfforddi Tudful wedi helpu unigolion a gweithwyr i lwyddo ac i dyfu.
Mae gennym rwydwaith darparu ar draws De
Cymru yn cynnwys canolfannau hyfforddi, ym Merthyr
Tudful, Pontypridd, Pen-y-Bont
ar Ogwr a'r Coed Duon. Mae cynlluniau
i ddatblygu rhagor ledled yr ardal yn y dyfodol agos iawn.
Rydym wedi sefydlu enw da am ragoriaeth
mewn darparu gwasanaeth.
Gan ein bod yn Elusen gofrestredig,
mae hyn yn sicrhau fod unrhyw arian dros ben yn cael ei ail-fuddsoddi
mewn
darparu cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf a chyflogedigion gyda
chymwysterau da. Cawsom gymeradwyaeth mewn arolwg annibynnol gan ESTYN am
safonau uchel y ddarpariaeth o wasanaethau a buddsoddiadau.
Mae parch mawr tuag atom yn y sector
hyfforddi am ein gwaith gyda chyflogwyr a gyda phobl o bob oedran, cefndir
a gallu.
Mae'n cwmni wedi tyfu i ddod
yn un o'r 50 uchaf ymhlith darparwyr hyfforddiant a gwasanaethau
cyflogadwyedd yng Nghymru.
|