Prif ddarparydd hyfforddiant a datblygiad Cymru

Ein hamcan yw helpu pobl o bob oed sy'n cael trafferth gyda geiriau a rhifau yn eu bywydau bob dydd. Gwnawn hyn drwy ddarparu tiwtoriaid cymwys sy'n deall yr anawsterau hyn ac sy'n gallu helpu, arwain a chefnogi pob unigolyn i gyrraedd lefel lle maen nhw'n hyderus ac yn gallu symud ymlaen yn eu bywydau.

Ym mis Rhagfyr 2005 roedd Hyfforddiant Tudful yn un o'r nifer fechan ddethol o ddarparwyr hyfforddiant i ennill y Marc Ansawdd pwysig.

Pam mae Hyfforddiant Tudful yn ystyried bod sgiliau sylfaenol mor bwysig?

Mae sgiliau sylfaenol yn cael eu defnyddio bob dydd. Mae tasgau sy'n galw am sgiliau sylfaenol yn cynnwys:

·         Darllen a deall dogfennau, megis y print mân ar bethau fel cytundebau benthyciad, contractau gwaith a dogfennau cyfreithiol.

·         Llenwi ffurflen gais neu anfon e-bost neu ysgrifennu llythyr i wneud cais am waith

·         Darllen amserlenni trên a bws

·         Deall y testun ar wefannau fel hon ar y rhyngrwyd

·         Mae rhif yn eich helpu i wirio eich newid wrth brynu mewn siopau a chaffis, a delio gyda biliau trydan, nwy a garej.

 

Os felly, beth yw eich amcanion chi?


Os ydych chi wedi gwneud yr asesiad ac wedi canfod y byddech chi'n elwa yn sgîl hyfforddiant mewn sgiliau sylfaenol, mae'n amser i chi benderfynu beth rydych chi am ei gael allan o'r cwrs.

Mae llawer o gyrsiau sgiliau sylfaenol gwahanol ar gael, felly cyn penderfynu pa un sydd orau i chi, mae'n bwysig ein bod yn siŵr beth yw eich amcanion chi

Efallai y byddwch eisiau cychwyn ar lefel rhagarweiniol, neu ddim ond gwella peth ar eich Cymraeg, eich Saesneg neu'ch mathemateg. 

Efallai eich bod yn darllen yn iawn ond bod angen help arnoch gyda'ch sillafu. 

Mae eraill eisiau help gyda sgiliau penodol fel ysgrifennu llythyr busnes neu weithio gyda rhifau y mae angen iddynt eu defnyddio yn eu gwaith.

Dylech holi'ch hun pam eich bod eisiau gwella eich sgiliau sylfaenol - ai am resymau cymdeithasol neu oherwydd gwaith?  Mae llawer yn teimlo y bydd y ddau'n elwa.

Nawr fe edrychwn ni ar sut yr ydych yn dysgu orau. Efallai y byddech yn hoffi dysgu mewn grŵp neu ddysgu ar eich pen eich hun gyda thiwtor a rhaglen astudio unigol. Efallai y byddech yn hoffi cael cymorth wedi'i bersonoli fwy drwy hyfforddiant un-i-un.

Bydd nodi eich amcanion dysgu o'r dechrau'n deg yn eich galluogi i ddewis y cwrs sydd orau ar eich cyfer chi. Bydd eich tiwtor yn gallu eich helpu i egluro eich amcanion dysgu, eich dewis o arddull dysgu a pha fath o gymwysterau yr hoffech eu hennill.

Camau cyntaf

Asesiad sgiliau sylfaenol
Os ydych chi'n teimlo fod angen help arnoch gyda'ch sgiliau sylfaenol, y cam cyntaf yw cael asesiad. 

Dydy hyn ddim mor ddychrynllyd ag y mae'n swnio, dim ond rhywbeth i ganfod pa feysydd sydd arnoch angen fwyaf o help ynddynt, os o gwbl.

Bydd cymryd asesiad cychwynnol yn helpu ein tiwtoriaid i sefydlu p'un a oes angen help ar rywun gyda'i sgiliau sylfaenol. Os oes angen help arnoch, byddwn wedyn yn gwneud asesiad ychydig yn fwy manwl er mwyn canolbwyntio ar eich cryfderau a'ch gwendidau. Mae hyn yn galluogi ein tiwtoriaid i gynllunio rhaglen sy'n addas ar gyfer eich union anghenion.