Prif ddarparydd hyfforddiant a datblygiad Cymru



Roeddwn i gyda chi pan oeddwn i'n 16 oed. Fe roddoch chi gymaint o help i mi, ac roedd yr aseswyr yn fy nhrin i fel teulu. Fe wnaethon nhw fy helpu i gael fy nghymwysterau cyntaf erioed, i ddod o hyd i'm swydd gyntaf, a hyd yn oed ar ôl i mi adael roedden nhw yno pan oedd angen help arna' i, ac maen nhw yno o hyd.

                                                                                                                  Stephen.......

Diolch yn fawr iawn i chi. 

Pan ddes i atoch chi yn 2006, roeddwn i'n 38 oed, a doeddwn i ddim yn gallu ysgrifennu. Rydw i'n teimlo mor falch fy mod yn gallu ysgrifennu fy llythyr cyntaf. Ac mae hynny diolch i chi.  DIOLCH...................

 

                                                                                                       Steve

Dim ond  nodyn bach i ddweud diolch.  Dydw i erioed wedi bod â chymwysterau. Mae gen i sgiliau allweddol, CLAIT a'm HGV. Ac yn bwysicach i mi ac i'm teulu mae gen i swydd...............

                                                                                                          Clive

Rydw i'n ysgrifennu'r llythyr hwn i ddweud diolch am yr holl amser a'r ymdrech a roddoch chi i mi pan oeddwn i ar y cwrs.  Fe ges i'r help oedd ei angen arnaf i basio fy nosbarth 2. Roedd y pythefnos yn y dosbarth gyda Jeff yn llawer o hwyl, yn enwedig gan mod i wedi dysgu cymaint. Rydw i eisiau diolch i'r staff TG hefyd. Oni bai amdanyn nhw, fyddwn i ddim wedi dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur ac ysgrifennu'r llythyr hwn i ddiolch i BOB UN ohonoch....................

                                                                                                   Stephen W

Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Y rhan fwyaf o'r amser doeddwn i ddim hyd yn oed yn mynd i'r ysgol. Ces fy anfon at lwythi o wahanol gwmnïau hyfforddi ond roeddwn bob amser yn cael y sac oherwydd fy agwedd. Pan ddes i at Tudful, fe wnaethoch chi fy nhrin yn wahanol. Fe ges fy rhoi mewn lleoliad i ddysgu adwerthu, a bues i'n gweithio gyda fy aseswr. Roedd angen llawer o amynedd arno, ond yn y diwedd nid yn unig wnes i ennill fy NVQ ond fe ges i swydd lawn amser yno hefyd. Rydw i newydd basio fy mhrawf gyrru hefyd gyda chefnogaeth gan bawb yn Tudful. DIOLCH YN FAWR.............................

                                                                                                    Claire