|
Porth i Waith
(GtW)
Arweiniad i Gwsmeriaid
Hyfforddiant Tudful. Cwrs pythefnos mewn sgiliau personol a sgiliau
ceisio gwaith, sy'n ffurfio rhan o'r cyfnod Porth.
Mae cynnal awyrgylch ?yn y
gwaith? yn eich helpu chi, y
cwsmer,
i wella eich cyfathrebu, eich gwaith tîm a'ch sgiliau
datrys problemau. Gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd ymddangosiad, prydlondeb,
cadw amser a rheolaeth er mwyn dod o hyd i waith a'i gadw, mae hefyd yn
cynnig cyngor ac arweiniad gyda cheisiadau am swyddi, ysgrifennu CV, cynnal
CV da a'r sgiliau hanfodol ar gyfer cyfweliadau.
I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon sy'n para pythefnos, byddwch
rhwng 18 a 24 oed, wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am 6 mis ac
yn dal yn y Fargen Newydd 4 wythnos ar ôl dod i'r Porth.
Nod cyffredinol Porth i Waith yw'ch arfogi gyda'r
nodweddion, yr agweddau a'r disgyblaethau
sydd eu hangen ar gyflogwyr.
Mae pob un o'n cwsmeriaid yn derbyn cyngor ar chwilio am waith ac
arweiniad ar adnoddau chwilio am waith i'w galluogi i wneud cais am
gyflogaeth addas.
|