Prif ddarparydd hyfforddiant a datblygiad Cymru

Mae cyflogwyr yn gofyn o hyd ac o hyd am "sgiliau gwaith" gan eu gweithwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gallu darllen, ysgrifennu ac esbonio sefyllfaoedd, defnyddio sgiliau rhif sy'n angenrheidiol ar gyfer eu tasgau beunyddiol, defnyddio rhaglenni cyfrifiadirol sylfaenol, gweithio mewn timau ac ar eu pennau eu hunain, datrys problemau o fewn awdurdod eu disgrifiad swydd a gallu nodi'r meysydd lle mae angen dysgu arnyn nhw.

Mae Hyfforddiant Tudful yn darparu hyfforddiant a datblygiad ar gyfer y sgiliau hyn.

Ceir chwe sgil allweddol, pob un ohonynt ar gael ar lefelau 1 i 4. Y tri chymhwyster sgiliau allweddol yw:

  • Cyfathrebu
  • Cymhwyso Rhif
  • Technoleg Gwybodaeth.

 

Caiff y rhain eu hasesu drwy bortffolio o waith (sy'n cael ei asesu'n fewnol gan ddarparydd hyfforddiant); does dim prawf. Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn rhoi gwerth mawr ar y rhain.

Y sgiliau allweddol eraill, sy'n cael eu galw'n sgiliau allweddol ehangach yw:

  • Gweithio gydag Eraill
  • Gwella'ch Addysg a'ch Perfformiad eich hun
  • Datrys Problemau.

Caiff y tri yma eu hasesu drwy gyfrwng portffolio sy'n cael ei asesu'n fewnol.

 

Mae tri phrif reswm pam y byddwch yn ei chael hi'n ddefnyddiol i ofyn i ddarpar weithwyr os ydyn nhw'n meddu ar sgiliau allweddol.

Dyma'r rhesymau:

Mae sgiliau allweddol yn tanategu popeth y mae person yn ei wneud yn y gwaith ac yn y cartref.

  • Mae pobl yn cyfathrebu drwy'r amser.
  • Mae pobl yn defnyddio TG yn gynyddol bob dydd.
  • Mae rhifau yn greiddiol i lawer o'r hyn a wnawn yn ein cartrefi ac yn y gwaith.
  • Rydym yn adnabod pobl sy'n gweithio'n dda mewn grwpiau, sy'n drefnus iawn, ac sy'n gallu datrys eu problemau yn ôl pob golwg. Dyma'r bobl sy'n gwneud orau yn y gwaith, mewn chwaraeon ac yn eu bywyd cymdeithasol.
  • Os gall pobl:
  • wella yn eu trafod, eu siarad, eu gwrando a'u hysgrifennu
  • canfod gwybodaeth yn ei holl ffurfiau a'i phrosesu
  • defnyddio rhifau'n fwy hyderus
  • a chael y gorau allan o TG

fe gewch well gweithwyr, beth bynnag yw'r gwaith a wnânt.

Yn yr un modd

  • Mae Gwella'ch Addysg a'ch Perfformiad eich hun yn helpu pobl i ddysgu sut i reoli amser a'u gwaith ac i edrych am ffyrdd o wella eu gallu i wneud yn dda yn y gwaith a roddwch iddyn nhw.
  • Mae Gweithio gydag Eraill yn dangos i chi sut i wneud y gorau o waith grŵp.
  • Mae Datrys Problemau yn helpu eich gweithwyr i ddatblygu dull systematig o fynd i'r afael â'r problemau bach a mawr a fydd bob amser yn codi mewn gwaith ac mewn bywyd bob dydd.

Mewn ffordd, dydy sgiliau allweddol ddim mor newydd. Rydych wedi gofyn amdanyn nhw erioed. Mae llawer eisoes yn eu defnyddio. Yr hyn sy'n newydd yw eich bod yn cael y cyfle i ofyn i ddarpar weithwyr ddweud wrthych chi am y sgiliau hynny, yr un yr ydych chi am ei gael i wella eich busnes.

Os ydych chi'n rhedeg busnes ac angen recriwtio pobl gyda'r sgiliau gwaith angenrheidiol, yna siaradwch gyda Hyfforddiant Tudful heddiw i gael gwybod mwy.