|
Does dim ffordd gywir
neu anghywir o gychwyn
ar eich gyrfa. Os siaradwch
gyda'ch ffrindiau neu'ch rhieni, mae'n debyg y byddan nhw wedi cael
llawer o swyddi gwahanol?..a
bu hyfforddiant yn gyfrwng i
wneud pethau'n haws iddyn nhw. Mae gennych chi gyfle nad oedd ar gael
iddyn nhw, gallwch roi tro ar wahanol fathau o waith cyn i chi wneud eich
penderfyniad.
Mae'n haws erbyn hyn i gael mynd i fewn i ddysgu ac mae llawer mwy o
ddewis ynghylch ble a beth y gallwch ddysgu. Mae Adeiladu Sgiliau yn un
opsiwn fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch hyder.
Bydd cynyddu eich
sgiliau'n cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i chi ?.
Gallwch symud ymlaen at opsiynau
Ceiswyr Sgiliau megis Hyfforddiaethau Cenedlaethol neu Brentisiaeth Fodern, Addysg Bellach neu
Gyflogaeth.
Ar gyfer pwy mae'r rhain?
Rydych yn gymwys ar
gyfer Adeiladu Sgiliau os ydych chi'n 16 neu 17 mlwydd oed neu dros 25
oed ac am ennill y sgiliau a'r cymwysterau fydd eu hangen arnoch chi er
mwyn rhoi man cychwyn da i'ch gyrfa. Cyn i chi benderfynu, siaradwch gyda
phobl yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw, fel eich rhieni, eich ffrindiau
a'ch canolfan Gyrfa Cymru lleol.
Maen nhw i
gyd yno i'ch helpu chi.
Beth gaf i allan o hyn?
Mae Adeiladu Sgiliau yno
i'ch helpu os oes angen cymorth arnoch chi gyda'ch sgiliau fel darllen,
ysgrifennu neu ddelio gyda rhifau, neu os hoffech chi roi tro ar swydd i
weld os ydy'r swydd honno'n eich siwtio chi. Mae hefyd yn help os nad
ydych chi'n siŵr pa swydd yr hoffech chi ei
gwneud.
Mae hyfforddiant ar gael
mewn amryw feysydd
galwedigaethol a bydd yn dibynnu
ar eich amgylchiadau. Mae dau opsiwn ar gael ar eich cyfer ar Adeiladu
Sgiliau: -
Opsiwn 1 - Adeiladu Sgiliau
Opsiwn 2 - Adeiladu Sgiliau NVQ 1
Gan ddibynnu ar ba
opsiwn Adeiladu Sgiliau y penderfynwch ei ddilyn gallwch dderbyn: -
* Help i ennill y
sgiliau sydd eu hangen arnoch fydd yn rhoi hwb i'ch hyder a'ch gwybodaeth
am swyddi ac am gyfleoedd hyfforddi.
*Lleoliadau gwaith sy'n
rhoi profiad personol i chi o wahanol fathau o swyddi.
* Lwfans hyfforddi yn 16
ac 17 oed neu dâl
atodol ar ben unrhyw
fudd-daliadau sy'n cael eu talu i chi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
* Hyfforddiant tuag at
Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar o leiaf lefel 1.
|
Beth yw'r camau?
Bydd rhaid i chi fynd i'ch Swyddfa Gyrfaoedd neu'ch Canolfan Byd Gwaith
lleol a thrafod yr opsiwn hwn yn fanylach gyda'ch ymgynghorydd. Unwaith y
byddwch wedi cytuno ar eich anghenion bydd eich ymgynghorydd yn gallu
eich helpu i gysylltu â'r bobl fydd yn gallu eich arwain i lawr y ffordd
gywir.
Opsiwn 1 -
Hyfforddiant Cychwynnol Adeiladu Sgiliau
Fel arfer byddwch yn
derbyn amrywiaeth o gefnogaeth dros gyfnod o wythnosau, wedi'i
chynllunio i gwrdd â'ch anghenion.
Gall Hyfforddiant Cychwynnol gynnig y canlynol i chi: -
* Profiad gwaith gyda
chyflogwr
* Hyfforddiant priodol yn eich galwedigaeth ddewisol
* Sesiynau blasu swydd
i chi gael profiad o'r swydd drosoch eich hun
* Cymorth ymarferol yn ôl yr angen
* Cyngor ac arweiniad defnyddiol gan aseswyr a thiwtoriaid cymwys
* Y cyfle i drosglwyddo i NVQ Lefel 1, Hyfforddeiaeth Genedlaethol neuBrentisiaeth
Fodern.
Os byddai'n well gennych
hyfforddi gyda chyflogwr, efallai mai Adeiladu Sgiliau fyddai orau i chi.
Opsiwn 2 - NVQ 1
Adeiladu Sgiliau
Gydag Adeiladu Sgiliau
byddwch yn cael hyfforddiant mewn swydd gyda chyflogwr. Gall hyn arwain
at ennill Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar lefel 1, yn
ogystal â chymwysterau ychwanegol fel Sgiliau Allweddol.
Pa Lwybrau sydd ar Gael?
Mae Adeiladu Sgiliau ar
gael mewn amrywiaeth o
wahanol yrfaoedd. Bydd y dewis
yn dibynnu ar eich anghenion. Rydym yn cynnig y canlynol
NVQau lefel 1: -
* Gweinyddiaeth Busnes
* Gwasanaeth Cwsmeriaid
* Gweithrediadau Dosbarthu
* Gweithrediadau Adwerthu
* Defnyddio Technoleg Gwybodaeth
|