|
Rydym yn cydnabod
pwysigrwydd addysg, hyfforddiant a datblygiad i unigolion ac i gyflogwyr a
phan gewch ein cyfeirio atom ni gan Ganolfan Byd Gwaith neu gan y gwasanaeth Gyrfaoedd, mae pob un o'n gwasanaethau i bobl ifanc,
oedolion a chyflogwyr yn rhad ac am ddim.
Yn Hyfforddiant Tudful, rydym yn anelu'n
barhaus at bersonoli'r gefnogaeth angenrheidiol sydd
ei hangen ar bob
unigolyn a thrwy hynny rydym yn gwneud y gorau o'r amser y mae'r unigolyn
yn ei dreulio gyda ni.
Mae
Hyfforddiant Tudful yn
ymfalchïo yn ei record o fod ar flaen y gad
gyda nifer o brosiectau arloesol yn y
sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae hyn wedi
creu enw da i ni fel sefydliad sy'n gyfystyr â newid cadarnhaol ac
effeithiol o fewn byd hyfforddiant a chyflogadwyedd.
|